Cyngor Eco
Beth yw'r Cyngor Eco?
Grwp o ddisgyblion yr ysgol yw'r Cyngor Eco ysgol sydd yn cael eu hethol i gynrychioli llais a barn yr holl ddisgyblion er mwyn edrych ar ol amgylchedd yr ysgol.
Ein cod Eco:
P lîs arhoswch a gwrando,
A m ein bod angen gwneud gwahaniaeth.
R ydym am ailgylchu ac ailddefnyddio!
C odwch eich sbwriel,
Y gorau hoffwn wneud.
R haid gweithredu cyn bod hi’n rhy hwyr,
H elpwch ni i newid y byd,
U n dim o blant gwych ydym ni!
N i anghofiwn, brwydrwn yn erbyn y sialens.
Yn y flwyddyn newydd rydym yn edrych i gwblhau ychydig o heriau ar ein cynllun gweithredu!
Allwch chi ein helpu ni?
• Dewch â bocs bwyd iach bob dydd – gallai hyn gynnwys darn o ffrwyth, dŵr, brechdanau bara brown, iogwrt.
• Defnyddiwch boteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio bob dydd – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich gorau i yfed dŵr nid sudd!
• Ailddefnyddio gwisg ysgol – Mae'r cyngor eco bob amser yn gwerthu gwisg ysgol am bunt yn unig. Holwch eich athrawon ysgol os oes gennych ddiddordeb!