Skip to content ↓

Amdanom Ni

Mae Ysgol Parcyrhun yn gymuned ddiogel, ofalgar lle bydd bob plentyn yn cael y cyfle i gyflawni i’w botensial llawn a datblygu’n aelod gwerthfawr o’r gymdeithas. Rydym wrth ein bodd i groesawu eich plentyn i’r ysgol a mawr obeithiwn y byddant yn hapus yn ein hysgol.

“Ein nod yw i sicrhau bod yr holl blant, beth bynnag eu gallu yn cyrraedd eu llawn potensial mewn awyrgylch hapus a diogel.”

Yn Ysgol Parcyrhun School ein bwriad yw:

¨ gofalu am bob plentyn

¨ hybu rhagoriaeth a gwelliant parhaus

¨ gwerthfawrogi cyfraniad yr unigolyn
¨ datblygu dysgwyr hyderus ac annibynnol
¨ rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau, yn benodol sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGaCh
¨ hybu datblygiad esthetig, ysbrydol , moesol a chymdeithasol
¨ datblygu hunan ddisgyblaeth, safonau uchel o gwrteisi, cyflwyniad ac ymddygiad.
¨ creu ethos cynhwysol a gofalgar
¨ dysgu’r plant i werthfawrogi a pharchu eu hunain ac eraill
¨ hybu cysylltiadau cryf rhwng rhieni a’r gymuned ehangach
¨ cael hwyl wrth ddysgu!

Ein gobaith yw:

Y bydd plant, rhieni, staff a llywodraethwyr yn gweithio gydai’i gilydd i greu ysgol hapus, gynhyrchol a symbylol.