Skip to content ↓

Blwyddyn 1 a 2

Athrawes - Miss N Williams

Ebost/Email: nicola.williams@parcyrhun.ysgolccc.cymru

 

Cwricwlwm ar gyfer Blwyddyn 1 a 2 

Mae’r cwricwlwm hwn yn adeiladu ar sylfaen y dosbarth Meithrin/Derbyn. Mae’r cwricwlwm yn galluogi ein dysgwyr i wneud cynnydd yn eu dysgu a chyfrannu at y ‘pedwar diben’. Dyma’r man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.

Rydym eisiau bachu brwdfrydedd ein disgyblion yn syth ac yn gweld pwysigrwydd llais y disgybl yn allweddol i lwyddiant y dysgu. Rydym eisiau sicrhau gweithgareddau amrywiol, gwahaniaethol sydd yn rhoi cyfleoedd cyfoethog a chyfartal i bawb. Rydym eisiau meithrin ac annog annibynniaeth pob plentyn.

Bydd y plant yn ymdrin â’r meysydd dysgu a phrofiad canlynol-

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Dyniaethau
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Y sgiliau trawsgwricwlaidd canlynol sydd yn rhan o gwricwlwm Blwyddyn 1 a 2-

  • llythrennedd
  • rhifedd
  • chymhwysedd digidol

Ein gobaith yw bydd y plant yn datblygu i fod-

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog 
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol  
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus 
  • yn unigolion iach, hyderus 

 

Gwybodaeth Defnyddiol 

​Diogelwch 

Os ydy’r drws ar gau, fe fydd angen canu’r gloch wrth ddrws y brif fynedfa. 

Enwau 

Gofynnir i rieni/gwarchodwyr i sicrhau fod dillad, bagiau a bocsys bwyd y plant yn cael eu labeli gydag enw’r plentyn, os gwelwch yn dda. 

Ffrwyth a Llaeth 

Mae’r plant ym mlwyddyn 1 a 2 yn cael llaeth pob dydd yn yr ysgol. Mae’r llaeth am ddim i’r plant. Os hoffai eich plentyn darn o ffrwyth gyda’r llaeth, yna gofynnwn yn garedig i chi ddanfon darn o ffrwyth gyda’ch plentyn i’r ysgol yn ddyddiol. Diolch. 

Ymarfer Corff 

Bydd angen gwisg ymarfer corff ar eich plentyn, sef: crys-t gwyn a siorts/trowsus du, os gwelwch yn dda. Fe fydd eich plentyn yn dod i’r ysgol mewn gwisg ymarfer corff ar y diwrnodau canlynol: 

Ffrwd Gymraeg: Dydd Mawrth 

Casglu Plant 

Mae angen i rieni/gwarchodwyr sicrhau fod gan yr ysgol gwybodaeth sydd yn ymwneud a’r pobl a fydd yn casglu’r plant o’r ysgol yn dyddiol ynghyd a chyfrinair personol eich plentyn. Mae angen y wybodaeth yma arnom er mwyn sicrhau diogelwch y plant. 

Darllen 

Bydd llyfr darllen i'ch plentyn yn cael ei anfon adref gyda nhw bob dydd Gwener a gofynnwn iddo gael ei ddychwelyd i'r ysgol ar y dydd Llun canlynol. Bydd hyn yn caniatáu i'ch plentyn ddarllen gyda chi gartref dros y penwythnos ac yna cael cyfleoedd pellach i ymarfer darllen yn yr ysgol fel arfer, ac fe fydd e-gopiau llyfrau Tric a Chlic (Ffrwd Gymraeg) a Oxford Reading Owl (Ffrwd Saesneg) ar gyfrif HWB eich plentyn i chi i ddarllen ar ipad/tabled/laptop gyda’ch plentyn adref.  

Gwaith Cartref 

Fe fydd gwaith cartref yn cael ei gosod yn llyfr gwaith cartref neu ar gyfrif HWB eich plentyn ar bob Dydd Mawrth i’w gwblhau erbyn bob Dydd Llun.