Skip to content ↓

Croeso

GORAU DYSG, CYD-DDYSGU

Mae’r ysgol a agorwyd yn 1909 yn ysgol gynradd Categori A/B sef ysgol sydd â ffrydiau Cymraeg a Saesneg.  Sefydlwyd Canolfan Adnoddau i Blant â Nam ar eu Clyw yn yr ysgol yn 2004.

Mae 9 ystafell ddosbarth gennym sy’n cynnwys ystafell i’r Cylch Meithrin lleol ac 8 dosbarth prif ffrwd. Lleolwyd y Ganolfan Adnoddau i Blant â Nam ar eu Clyw yn ystafell ddosbarth ychwanegol ar iard yr ysgol. Mae gennym neuadd fawr sy’n ganolfan i fywyd yr ysgol, dyma ein lle cwrdd ar gyfer gwasanaethau, y ffreutur, gwersi Addysg Gorfforol, clybiau brecwast ac ar ôl ysgol a chlybiau allgyrsiol!

Mae gan Ysgol Parcyrhun staff sy’n ffurfio tîm cyfeillgar a gweithgar. Mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb am wahanol feysydd o’r cwricwlwm. Mae’r ysgol yn ymrwymiedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus er mwyn galluogi staff i gyflawni eu rolau’n effeithiol. Yn ogystal â’r athrawon mae gennym nifer o gynorthwywyr dosbarth sy’n cefnogi athrawon a phlant yn effeithiol.

Mae’r ysgol yn ymwneud a digwyddiadau chwaraeon yn yr ardal ac mae ein gweithgareddau allgyrsiol yn cynnwys Clwb Campau’r Ddraig, Clwb Garddio, Clwb Coginio, Clwb yr Urdd, Clwb Clic a Chlwb arwyddio.

Mae gennym Gymdeithas Rhieni Athrawon fywiog sy’n cyfarfod yn rheolaidd. Mae’r gymdeithas wedi cyflwyno nifer helaeth o roddion i’r ysgol er lles y plant. Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn dangos cefgnogaeth a diddordeb byw yn y plant a’r ysgol ac maent yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd.