Skip to content ↓

Cwricwlwm i Gymru

Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-greu drwy ymgysylltu â’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion canlynol:

Ein gweledigaeth

Rydym am gynnau’r sbarc yng nghalon pob plentyn a’i helpu i brofi’r wefr a ddaw o lwyddo.

Rydym am wneud hyn drwy annog plant:

i danio eu dychymyg

gan fentro’n frwdfrydig

a hyn wrth ddatblygu a llwyddo. 

 

Datganiad cenhadaeth

Byddwn yn cynnig cwricwlwm eang a chyffrous ar lawr y dosbarth a’r tu allan iddo, gan sicrhau bod ein plant yn mwynhau dod i’r ysgol gan ddysgu mewn awyrgylch hapus, gofalgar a chynhwysol. Bydd eu lles meddyliol, emosiynol a chorfforol yn ganolog i ofal yr ysgol amdanynt, wrth iddi eu helpu i  ddysgu sgiliau tîm yng nghwmni eu cyd-ddisgyblion, gan hefyd ddatblygu’r hyder i weithio’n annibynnol. Bydd staff yr ysgol yn ysgogi’r plant fel eu bod yn datblygu’n ddysgwyr awchus, gan sgaffaldio amrywiaeth o brofiadau ar eu cyfer, gyda phob plentyn yn defnyddio’r sgaffold i adeiladu ei dŵr addysgol ei hun. Byddwn yn cynnig profiadau cyfoethog mewn ffyrdd hwyliog i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a cymhwysedd digidol. Byddwn yn cymell ein plant i ymfachïo yn niwylliant a thraddodiadau eu hardal leol a’u cenedl, gan feddwl am eu perthynas â’r byd ehangach. Rydym am ddathlu’r iaith Gymraeg a’n Cymreictod yn ei holl amrywiaeth. Drwy hyn, bydd ein plant yn datblygu’n ddinasyddion cyfrifol, gan feithrin parch at eraill a’r amgylchedd, gan ddeall bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae yn y Gymru gyfoes a’r byd ehangach.

 

Ein cwricwlwm cynhwysol

Bydd ein cwricwlwm yn codi dyheadau pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wireddu’r pedwar diben ac i symud ymlaen. Rydym wedi ystyried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.

Y pedwar diben

Y pedwar diben yw’r man cychwyn a’r dyhead ar gyfer ein cynllun cwricwlwm ysgol. Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i ddod :

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd
  • unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad o:

  1. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  2. Celfyddydau Mynegiannol
  3. Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  4. Dyniaethau
  5. Mathemateg a Rhifedd
  6. Iechyd a Lles

Dysgu, Dilyniant ac Asesu

Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy ddylunio cyfleoedd dysgu sy'n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol.

Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgu a dysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn Maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau, ac mae’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein hymagwedd at asesu, a’i ddiben yw llywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid ​o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i'r ysgol.

Cymraeg a Saesneg

  • Mae’r Ffrwd Gymraeg yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac yn defnyddio’r Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm. Cyflwynir gwersi Saesneg ym mlwyddyn 3.
  • Mae’r ffrwd Saesneg yn darparu addysg cyfrwng y Saesneg  gyda’r Gymraeg yn cael ei chyflwyno fel ail iaith yn Ngyfnod Allweddol 2. Mae’r defnydd o Gymraeg achlysurol yn rhan annatod o ethos yr Ysgol.

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i: • datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu

  • gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
  • bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i'w helpu i weithredu a chyfathrebu'n effeithiol a gwneud synnwyr o'r byd

CCUHP – Hawliau Plant

Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP, ac o CCUHP, ymhlith y rhai sy'n darparu addysgu a dysgu.

CWRE : profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith

Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACRh

Mae ein cwricwlwm ysgol yn cofleidio'r arweiniad yn y Cod ACRh. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu’r pedwar diben fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Sylfaen ACRh yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae'r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.

CGM : Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.

Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae'r maes llafur cytûn yn nodi'r hyn y dylid ei addysgu mewn CGM o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu'r canllawiau hyn.

Adolygu a mireinio

Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i

allbynnau ymholi proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau'n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.

Cwricwlwm i Gymru - Curriculum for Wales - Ysgol Bro Ingli

Dewch i gwrdd a chymeriadau newydd y 4 diben / Come and meet our new characters for the 4 purposes.

Elfennau gorfodol cwricwlwm
Yn ogystal a’r uchod, bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o'r cwricwlwm.

  • Crefydd, gwerthoedd a moeseg.
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb.
  • Cymraeg
  • Saesneg