Skip to content ↓

Grant Amddifadedd Disgyblion

 

Datganiad Grant Datblygu Disgyblion

Dyrennir y Grant Datblygu Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol  am ddim neu sy’n LAC.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

  • nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
  • cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
  • monitro a gwerthuso effaith adnoddau

Yn Ysgol Parcyrhun mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

  • wella dysgu ac addysgu drwy ddarparu rhaglen gefnogi- sy’n cynnwys cynorthwywyr dysgu ag arbenigedd yn y meysydd isod i arwain grwpiau ffocws ac ymyrraeth.
  • darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy fel Chwarae Cadarnhaol, CHATT, Dyfal Donc Darllen, Hwb Ymlaen Mathemateg, Mathemateg Mwy Abl a Thalentog, RWI/ Tric a Chlic, Iaith a Lleferydd
  • darparu hyfforddiant penodol o safon uchel i staff ysgolion, yn cynnwys ar yr uchod a strategaethau ychwanegol
  •   cyflwyno a defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyraethau a monitro effaith.
  • gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, y gymuned a sefydliadau eraill sy’n cynnwys arbenigwyr a chymorth meddygolwella presenoldeb y grŵp targed drwy ddefnyddio systemau monitor ac ymyraethau.
  • datblygu capasiti arweinyddiaeth i flaenoriaethu’r effaith ar ansawdd y ddarpariaeth a’r  canlyniadau i gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd.

Mae ein cynllun manwl sy’n cynnwys manylion mewn perthynas â sut rydym yn gwario’r grant ar gael gan y Pennaeth.

PRYDAU YSGOL AM DDIM - Gwybodaeth i rieni

https://www.llyw.cymru/prydau-ysgol-am-ddim-gwybodaeth-i-rieni-gofalwyr

GWNEUD CAIS 

https://www.llyw.cymru/darganfod-mwy-am-brydau-ysgol-am-ddim

Grant Hanfodion Ysgol

Gall plant sydd â'u teuluoedd ar incwm isel ac sy’n gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol wneud cais am y grant o:

  • £125 i bob dysgwr
  • £200 i'r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r costau uwch sydd yn gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd)

Mae pob blwyddyn ysgol orfodol o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 bellach yn gymwys. 

Mae pob plentyn sy’n cael eu hystyried yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gymwys ar gyfer y grant, p’un a ydynt yn cael derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio. Nid yw dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim dan drefniadau “amddiffyniad wrth bontio” yn gymwys. 

Gall teuluoedd dim ond gwneud un cais ar gyfer un plentyn, unwaith ar gyfer pob blwyddyn ysgol. 

Mae cynllun 2023 i 2024 bellach ar agor ac yn cau mis 31 Mai 2024. 

I wneud cais am y grant hwn, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.