Skip to content ↓

Meithrin a Derbyn

Athrawes - Miss J Davies 

Ebost/Email -  jessica.davies@parcyrhun.ysgolccc.cymru 

Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau MEITHRIN 

Uchelgais y cwricwlwm hwn yw ennyn ymdeimlad cadarnhaol tuag at ddysgu ymhlith plant a fydd, os caiff ei feithrin, yn para am oes ac yn rhoi’r sylfaen gadarn sydd ei hangen ar bob un o’n plant i’w helpu i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Mae’n ymdrin â ‘sut’ a ‘pham’ y caiff y cwricwlwm ei ddylunio i gefnogi plant i ddatblygu: 

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog  

  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol  

  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus 

  • yn unigolion iach, hyderus 

Mae’r cwricwlwm hwn yn cydnabod bod pob plentyn yn ein lleoliad yn unigryw ac y bydd yn datblygu’n gyflym iawn yn ystod pum mlynedd cyntaf ei fywyd. Mae’n cefnogi datblygiad holistaidd drwy sicrhau bod anghenion datblygiadol ein plant yn rhan flaenllaw o’n hymarfer addysgegol. Mae’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi bod y Gymraeg yn rhan o ddiwylliant unigryw Cymru, ac yn iaith y dylid ei haddysgu ym mhob lleoliad yng Nghymru. 

Man cychwyn yr egwyddorion allweddol ar gyfer dysgu holistaidd ac ystyrlon i bob plentyn yw ymarferwyr medrus, sylwgar a brwdfrydig, sy’n cynnig profiadau dilys a diddorol mewn amgylcheddau effeithiol a chyffrous. Ein rôl yw defnyddio ein harsylwadau i gynllunio profiadau ac amgylcheddau sy’n ystyrlon ac yn berthnasol i ddiddordebau plant. Mae’r cwricwlwm hwn yn sicrhau y caiff elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru eu hymgorffori mewn fframwaith addysgegol priodol sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn sy’n datblygu ar hyd pum llwybr datblygu – perthyn, cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol a lles. 

Er mwyn gwireddu uchelgais y cwricwlwm hwn mae’n hanfodol cael addysgeg effeithiol sy’n rhoi lle canolog i’r plentyn ac sy’n ymatebol, yn ddeinamig ac wedi’i gwreiddio mewn cydberthnasau cryf. Er bod egwyddorion addysgeg effeithiol wedi’u gwreiddio ym mhob rhan o’r cwricwlwm, mae’n arbennig o bwysig ein bod yn sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn ein lleoliad yn cynnig cyfleoedd cyson ar gyfer y canlynol:  

  • chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae  

  • bod y tu allan  

  • dysgu dilys a phwrpasol  

  • llythrennedd corfforol. 

  • Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol 

 

Gwybodaeth Defnyddiol 

Diogelwch 

Os ydy’r drws ar gau, fe fydd angen canu’r gloch wrth ddrws y brif fynedfa. 

Enwau 

Gofynnir i rieni/gwarchodwyr i sicrhau fod dillad y plant yn cael eu labeli gydag enw’r plentyn, os gwelwch yn dda. 

Ffrwyth a Llaeth 

Mae’r plant yn y blynyddoedd cynnar yn cael llaeth pob dydd yn yr ysgol. Mae’r llaeth am ddim i’r plant. Os hoffai eich plentyn darn o ffrwyth gyda’r llaeth, yna gofynnwn yn garedig i chi ddanfon darn o ffrwyth gyda’ch plentyn i’r ysgol yn ddyddiol. Diolch. 

Ymarfer Corff 

Bydd angen gwisg ymarfer corff ar eich plentyn, sef: crys-t gwyn a siorts/trowsus du, os gwelwch yn dda. Fe fydd eich plentyn yn dod i’r ysgol mewn gwisg ymarfer corff ar y diwrnodau canlynol: 

Ffrwd Gymraeg: Dydd Mawrth 

Casglu Plant 

Mae angen i rieni/gwarchodwyr sicrhau fod gan yr ysgol gwybodaeth sydd yn ymwneud a’r pobl a fydd yn casglu’r plant o’r ysgol yn dyddiol. Mae angen y wybodaeth yma arnom er mwyn sicrhau diogelwch y plant. 

Darllen 

Bydd llyfr darllen i'ch plentyn yn cael ei anfon adref gyda nhw bob dydd Gwener a gofynnwn iddo gael ei ddychwelyd i'r ysgol ar y dydd Llun canlynol. Bydd hyn yn caniatáu i'ch plentyn ddarllen gyda chi gartref dros y penwythnos ac yna cael cyfleoedd pellach i ymarfer darllen yn yr ysgol fel arfer, ac fe fydd e-gopiau llyfrau Tric a Chlic (Ffrwd Gymraeg) a Oxford Reading Owl (Ffrwd Saesneg) ar gyfrif HWB eich plentyn i chi i ddarllen ar ipad/tabled/laptop gyda’ch plentyn adref.  

Gwaith Cartref 

Fe fydd gwaith cartref yn cael ei gosod yn llyfr gwaith cartref neu ar gyfrif HWB eich plentyn ar bob Dydd Mercher i’w gwblhau erbyn bob Dydd Llun. Mae mwy o fanylion am waith cartref y plant a sut i gael mynediad iddo mewn pecyn ‘Gwaith Cartref’ yn eich Pecyn Dechrau Ysgol.