Skip to content ↓

Parent Pay

System talu ar lein / On line paying sytem : PARENTPAY

Mae system ParentPay yn ffordd fwy cyfleus a diogel i chi dalu am brydau ysgol ar-lein. Er mwyn dechrau defnyddio ParentPay, byddwch yn derbyn llythyr gydag enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw. Bydd rhaid i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf. Hefyd, bydd angen arnoch gyfeiriad e-bost dilys.

Trwy ddefnyddio'ch cyfrif ParentPay, gallwch wneud y canlynol:

  • talu am brydau ysgol ac eitemau eraill megis tripiau ysgol, gwisg ysgol ac ati.
  • gweld hanes yr holl daliadau rydych wedi'u gwneud
  • creu un cyfrif ar gyfer eich holl blant
  • cael derbynebau a negeseuon e-bost awtomatig yn eich atgoffa bod angen rhoi rhagor o arian yn eich cyfrif. Gallwch dderbyn negeseuon atgoffa trwy neges destun ond mae yna ffi o 6c y neges ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae derbynebau a negeseuon atgoffa dros e-bost yn rhad ac am ddim.

Ni fydd angen i chi anfon eich plant i'r ysgol gydag arian parod neu sieciau, mae'r taliadau'n digwydd ar unwaith a bydd yr arian ar gael yn syth ar gyfrif eich plentyn.  Ni fyddwn yn derbyn taliadau arian parod/sieciau am brydau ysgol yn yr ysgol. Os oes angen i chi barhau i wneud taliadau trwy ddefnyddio arian parod, gallwch ddefnyddio PayPoint sydd ar gael mewn nifer o siopau lleol yn y Sir.

Parent Pay