Skip to content ↓

Presenoldeb a gwyliau

Mae Presenoldeb yn yr Ysgol yn Bwysig!

Mae'n bwysig iawn fod pob plentyn yn mynychu'r ysgol bob dydd ac yn cyrraedd yn brydlon. Deallwn yn iawn fod plant yn dost o bryd i'w gilydd a gofynnir i chi gysylltu â swyddfa'r ysgol bob dydd y bydd plentyn yn dost i'n hysbysu. 

PRYDLONDEB 

Rhaid cadw at amser dechrau blwyddyn ysgol eich plentyn. Gofynnwn i bob plentyn gyrraedd yn brydlon i sicrhau dechrau cadarnhaol i’r diwrnod. Rhaid i bob plentyn sy’n cyrraedd yn hwyr adrodd i brif swyddfa’r Ysgol. 
Mae cofnod hwyrni yn cael eu cadw fel rhan o'n cofrestr arferol. Os oes patrwm sydd yn peri gofid yn amlygu, mi fydd yr ysgol yn danfon llythyr adref ac yn cysylltu â'r Swyddog Lles yr Ysgol. 
Mewn achosion o gyfnodau hir o absenoldeb heb esboniad, cysylltwn â'r Swyddog Lles ac yn dibynnu ar y sefyllfa, bydd y Swyddog hynny yn cysylltu â'r cartref.